Dosbarthiadau Pilates Clasurol Mat a Diwygiwr

Mae Sgŵp Pilates yn eich paratoi i wynebu heriau bywyd modern, gan eich galluogi a’ch grymuso i fyw eich bywyd yn llawn.

Amdanaf i

Fy enw i yw Rhianon Kennard, ac rwy'n hyfforddwr Pilates annibynnol. Pan nad wyf yn gweithio rydw i allan yn cerdded, rhedeg neu feicio yng nghefn gwlad, yn mwynhau bod yn egnïol a chael llawer o awyr iach.

Dechreuais fy siwrnai Pilates pan gofrestrais ar gyfer cwrs Dechreuwyr yn ôl yn 2013 yn Stiwdio Barefoot yn y Bont-faen. Mwynheais y dull addysgu a gwnaeth yr ymwybyddiaeth o'r corff a roddodd i mi argraff arnaf. Cefais fy annog i hyfforddi fel hyfforddwr gan fy chwaer. Canfyddodd hithau fod pilates yn cael effaith gwych ar ei chefn drwg. Nid oedd mwyach angen ymweld â'i cheiropractydd.

Dechreuais weithio yn Stiwdio Barefoot yn 2015, gan ennill profiad yno yn addysgu dosbarthiadau ac unigolion. Sefydlais Sgŵp Pilates ym mis Medi 2022 sydd wedi mynd o nerth i nerth.

Rwy’n hyfforddwr Lefel 3 Peak Pilates cwbl gynhwysfawr, gydag 8 mlynedd o brofiad y tu ôl i mi. Teimlaf nawr fy mod mewn sefyllfa well nag erioed i rannu'r hyn y mae Pilates wedi'i gyflwyno i mi. Rwyf bellach yn fwy ffit ac yn gryfach nag y bûm erioed (a dydw i ddim yn dioddef o broblem ‘cefn drwg’ y teulu!). Rwyf wrth fy modd yn helpu pobl i wella ei cryfder craidd, a thrwy hynny ei gallu i symud yn well. Gwelaf sut mae pobl yn teimlo'n fwy heini ac yn fwy hyblyg oherwydd fy addysgu, mae hynny'n rhoi boddhad mawr i mi!

Dosbarthiadau

Dosbarthiadau Mat

  • Mae ein dosbarthiadau mat yn wych ar gyfer pobl sydd eisiau cryfhau eu cyhyrau craidd, cael mwy o hyblygrwydd a gwella eu hosgo. Yn y dosbarthiadau rydym yn gweithio'n galed gydag amrywiaeth o offer megis bandiau, peli meddal, rholeri, polion a chylchoedd pŵer. Mae'r rhain yn ein helpu i ganolbwyntio ar wahanol rannau o’r corff. Mae Pilates yn addas ar gyfer pob math o bobl o wahanol siapau ac oedrannau (16 oed a hŷn) a mae pob dosbarth yn ymarfer y corff cyfan

    1. Cwrs i Ddechreuwyr: Edrychwch allan am ein cyrsiau 6 wythnos i ddechreuwyr, (sy'n digwydd yn unol â thymor yr ysgol). Mae rhain yn eich tywys trwy gysyniadau sylfaenol Pilates ac yn raddol yn adeiladu i fyny at y drefn mat sylfaenol.

    2. Pilates Sylfaenol: Dosbarth ysgafnach lle mae'r ymarferion clasurol yn cael eu torri i lawr ac mae’r rhediad yn arafach.

    3. Mat Clasurol: Yn llifo drwy'r drefn mat clasurol sylfaenol, yn aml gyda ffocws ychwanegol ar ddarn o offer neu gysylltiad corff.

    4. Canolradd: Dosbarth sy’n cynnwys rhai o'r ymarferion mwy heriol, trawsnewidiadau mwy anodd ac sy’n symud yn gyflymach.

    • Dosbarth Mat Sengl - £11

    • Tocyn Mat 6 Dosbarth - £54

    • Set o 4 Mat Un i Un - £168

    • Sesiwn Deuawd - £52

Diwygiwr ac Offer 1:1

  • Mae sesiynau Pilates Un i Un wedi'u teilwra'n llwyr i anghenion eich corff. Mae gweithio gyda sbringiau yn golygu gweithio gyda gwrthiant a byddwch yn teimlo’r gwahaniaeth yn eich corff yn gynt. Bydd yn eich cynorthwyo wrth wella o anafiadau a hefyd bydd yn herio unigolion ffit drwy gynnig heriau cyffrous. Bydd eich cyhyrau craidd yn cael eu cryfhau wrth i chi symud mewn amrywiaeth o siapau sy'n eich gadael yn teimlo'n dalach, wedi'ch ymestyn, wedi'ch unioni yn wych. P’un a hoffech chi fwynhau sesiwn untro neu archebu bloc o chwech, bydd yn werth chweil.

    Buddion y diwygiwr (Reformer) Pilates:

    Mae'r darn poblogaidd hwn o offer Pilates yn ddarn o offer sydd â system sbringiau a phwliau lluniaidd sy'n cynnwys cerbyd llithro sydd â’r gallu i ymgorffori graddau amrywiol o densiwn. Mae’n berffaith ar gyfer dechreuwyr, yn heriol i'r rhai sy'n frwd dros ffitrwydd, ac yn addas ar gyfer ymadfer o anaf.

    Darnau eraill o offer:

    Cadair MVe, Ped a Pul, Cywirwr Asgwrn Cefn, Cywirwr Traed, Tŵr.

    • Sesiwn Diwygiwr Sengl / Un i Un - £52

    • Set o 6 sesiwn Diwygiwr / Un i Un - £300

Polisi canslo dosbarth - Byddaf yn cadw lle i chi ar gyfer eich dosbarth dewisol. Os hoffech ganslo neu newid dosbarth rhowch wybod i mi. Os byddwch chi'n colli'ch dosbarth neu'n cysylltu â mi lai na 24 awr cyn eich dosbarth i'w ganslo, bydd yn cael ei dynnu o'ch tocyn dosbarth.

Amserlen

Lleoliad

Mae ‘Y Cwt’ yn lleoliad eco cynnes a deniadol yng nghanol Pendeulwyn. 

 

Archebu Dosbarth

Am Pilates Clasurol

Pilates Clasurol yw'r ffurf buraf ar Pilates, gan ymarfer y dull y bwriadodd Joseph Pilates. Mae'r dull yn canolbwyntio ar gryfhau ac ail-gydbwyso grwpiau o gyhyrau.

Mae'n ddull o ymarferion corff gyfan sydd wedi'u cynllunio i wella symudiad eich corff ym mhob gweithgaredd dyddiol. Mae'n eich helpu i symud ac anadlu trwy'ch diwrnod, gyda mwy o ryddid, pŵer a llai o boen. Mae pwyslais ar gryfder craidd er mwyn datblygu patrymau symud ymarferol a chynaliadwy ar draws y corff. Mae meddygon yn aml yn ei argymell at ddibenion iechyd cyffredinol, atal anafiadau ac adferiad.

Mae'n gwella cryfder craidd; yn lleihau camweithrediad llawr y pelfis; yn gwella osgo; gwella aliniad y corff; yn lleihau poen cefn; atal anafiadau; yn cynyddu egni; gwella ymwybyddiaeth y corff; yn lleihau straen; yn gwella hyblygrwydd a symudedd; yn gwella cydbwysedd; gwella perfformiad chwaraeon; yn cryfhau esgyrn; yn hybu hwyliau/tymer da ac yn gwella cwsg.